Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

 

Nodyn Technegol ar gyfer yr Is-bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Gronfa Enillion o Warediadau

 

 

1.       Ymgymerodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd dros Gymunedau a Phlant â'r gwaith o ddarparu nodyn technegol ar y Gronfa Enillion o Warediadau yn ystod sesiwn dystiolaeth yr Is-bwyllgor ar 24 Hydref 2017.

 

2.         Mae'r Bil yn cynnig diddymu Adrannau 24 - 26 o Ddeddf Tai 1996, er mwyn dileu'r gofyniad cyfrifyddu a dileu'r cyfyngiad ar y ffordd y gall Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wario'r enillion. Mae hyn yn dileu gallu Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo’r defnydd a wneir o’r Gronfa Enillion o Warediadau.  

 

3.       Mae Adrannau 24 i 26 o Ddeddf Tai 1996 yn nodi ei bod yn ofynnol i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ddangos enillion net o warediadau ar wahân yn eu cyfrifon, a bod Gweinidogion Cymru yn gallu cyfarwyddo'r defnydd a wneir o'r gronfa, a gofyn am wybodaeth gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig mewn perthynas â'r gronfa.

 

4.       Dyma yw enillion net o warediadau landlord cymdeithasol cofrestredig:

(a)     enillion gwerthiant net a dderbynnir ganddo mewn cysylltiad ag unrhyw warediad tir i denant;

(i)      yn unol â'r hawl a roddir gan adran 16 neu adran 180 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (hawl tenant i gaffael annedd);

(ii)     y rhoddwyd grant mewn cysylltiad ag ef o dan adran 21 (grant prynu mewn cysylltiad â gwarediadau eraill);

(iii)     y rhoddwyd grant mewn cysylltiad ag ef o dan adran 19 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 mewn cysylltiad â disgowntiau a roddir ganddo ar y gwarediad i'r tenant.

(b)     taliadau grant a dderbynnir ganddo o dan adran 20 neu 21 (grant prynu)

(ba)   taliadau grant a dderbynnir ganddo o dan adran 19 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 mewn perthynas â disgowntiau a roddir ganddo ar warediadau anheddau i denantiaid

(c)     pan fo unrhyw grant a nodir ym mharagraff (b) neu (ba) wedi cael ei dalu iddo, unrhyw ad-daliadau disgowntiau y cafodd y grant ei roi mewn perthynas â nhw

(d)     unrhyw enillion eraill o werthiannau neu daliadau grant (os o gwbl) fel y gall Gweinidogion Cymru eu pennu o dro i dro.

 

5.       Mae Penderfyniad Cyffredinol 1997 ynghylch cymhwyso neu ddyrannu enillion o warediadau yn amlinellu at ba ddibenion y gellir defnyddio'r gronfa enillion o warediadau. Mae'r defnydd a ganiateir yn cynnwys defnydd at ddibenion darparu, caffael, gwella neu drawsnewid anheddau er mwyn eu gosod, neu gaffael tir i'w ddatblygu yn y dyfodol. Mae'n rhaid i'r enillion gael eu defnyddio o fewn tair blynedd i'w derbyn, ac fel arfer cânt eu defnyddio yn yr ardal awdurdod lleol lle cawsant eu creu.

 

 

 

6.       Nododd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y pwerau i gyfarwyddo'r defnydd a ganiateir o'r enillion hyn fel un o ddangosyddion cydrannol rheolaeth y sector cyhoeddus drwy offerynnau galluogi/rheolaethau gormodol. Felly, mae angen dileu'r pŵer er mwyn i'r Bil allu cyflawni ei amcanion.

 

7.       Bydd angen sicrhau bod trefniadau pontio ar waith i ymdrin â chronfeydd presennol. Pan fo gan Landlord Cymdeithasol Cofrestredig gronfa enillion o warediadau ar adeg diddymu’r ddeddfwriaeth, bydd angen i'r trefniadau sicrhau na fydd y diddymiad yn dod i rym mewn perthynas â'r gronfa honno tan naill ai bod y gronfa wedi dod i ben, nad yw bellach yn gallu defnyddio'r gronfa yn unol â Phenderfyniad 1997 neu bod y dyddiad terfyn o dair blynedd wedi pasio.

 

8.       Bydd yr offeryn yn darparu nad yw'n ofynnol i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig dalu rhagor o arian i'w gronfa enillion o warediadau ar ôl i adrannau 24 a 25 o Ddeddf Tai 1996 gael eu diddymu, a lle caiff y gronfa enillion o warediadau ei throsglwyddo i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig gan Landlord arall, caiff ei y Landlord hwnnw ei drin yn yr un modd â'r Landlord blaenorol mewn perthynas â'r gronfa honno.

 

9.       Cesglir gwybodaeth am y Gronfa Enillion o Warediadau oddi wrth Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ynghyd â ffurflen flynyddol y "Grantiau Ailgylchu Cyfalaf" er cyfleustra. Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi adrodd ar y sefyllfa bresennol, gan nodi na fydd dileu'r gofyniad cyfrifyddu hwn yn effeithio dim ar weithrediadau'r Landlordiaid o ddydd i ddydd, gan bod unrhyw enillion o dan y darpariaethau hyn yn cael eu defnyddio at y dibenion, ac i’r amserlenni a nodir ym mhenderfyniad 1997 a bod y balans yn y cronfeydd, ar lefel ymarferol, yn ddim.

 

Noder - Defnyddir y Grant Ailgylchu Cyfalaf fel modd o ailgylchu'r Grant Tai Cymdeithasol a Grantiau eraill. Mae'n ofyniad ar wahân ac nid yw’r Bil hwn yn effeithio arno.